Mae’r rhedwraig, Laura Jones, yn agos at gyrraedd ei nod o redeg mewn saith marathon mewn un flwyddyn, a hynny wedi iddi gwblhau ei phedwaredd ras yn Awstralia yr wythnos ddiwethaf.

Fe gwblhaodd y rhedwraig 29 oed, sy’n wreiddiol o Abertawe, farathon Rottnest mewn pump awr a 57 munud, a hynny er gwaethaf y tymheredd o 30C.

Mae Laura Jones eisoes wedi cwblhau marathonau Llundain, Everest a Phatagonia, ac wrth redeg Marathon Ynys Rottnest, roedd hi’n gobeithio maeddu’r record y gosododd iddi’i hun yn Llundain, sef pump awr. Ond fe gafodd ei harafu gan y gwres.

Mae Marathon Rottnest yn golgyu rhedeg pedwar lap o gwmpas yr ynys sydd nepell o Perth yng ngorllewin Awstralia.

Tywydd “amhosibl”

Dywed Laura Jones i’r tywydd ei gwneud yn “amhosibl” iddi redeg yn gyflym, yn enwedig gan nad yw yn “gyfarwydd” a’r poethder.

“Roedd yr haul yn greulon”, meddai, “ac roedd y ffaith bod y cwrs yn darmac bron i gyd yn rheiddiogi’r poethder hyd yn oed yn fwy.”

Eto i gyd, mae’n “edrych ymlaen” at ei phumed ras, sef Marathon Seattle yn yr Unol Daleithiau ar Dachwedd 26.

“Rwy’n edrych ymlaen am ychydig o aer cŵl i redeg ynddo”, meddai eto.

“Mae yna siawns go dda y bydd hi’n oer ac yn damp. Mae hynny’n fy siwtio i’n well, cyn belled nad yw hi’n bwrw glaw yn drwm.”

Wrth redeg, mae Laura Jones yn codi arian i ddwy elusen penodol, sef Sefydliad Johnny Wilkinson a’r Sgowtiaid, ac yn barod mae hi wedi codi dros £3,100 – sef 30% o’i tharged.