Geraint Thomas
Mae Geraint Thomas wedi dweud ei fod yn debygol iawn y bydd rhaid iddo aberthu ei gyfle i gystadlu yn y Tour de France 2012.

Bydd y Gemau Olympaidd yn dilyn o fewn rhai wythnosau i ddiwedd y Tour flwyddyn nesaf, ac felly mae Geraint yn amau y bydd rhaid iddo ganolbwyntio ar yr ornest yn Llundain.

Gorffennodd Thomas yn y 31ain safle yn y Tour de France eleni – y safle uchaf o’r holl Brydeinwyr ar y daith.

Ond mae’r Cymro, 25 oed, o Eglwys Newydd wedi datgan y bydd rhaid iddo roi blaenoriaeth i’r Gemau Olympaidd yn Llundain.

“Mae’n bosib y gallwn ni dal i gymryd rhan yn y Tour hefyd,” meddai wrth y BBC. “Ond dydw i ddim eisiau peryglu fy mharatoadau ar y trac – mae’n golygu gymaint i mi.

“Dw i’n meddwl y byddwn i’n difaru petawn i’n cymryd rhan yn y Tour de France ond wedyn yn perfformio’n wael ar y trac a’n bod ni’n gorffen yn ail.

“Mi fyddwn i’n cicio fy hun, oherwydd mae Llundain yn gyfle unwaith mewn oes. Rydw i yn fy anterth ac mae gen i gyfle da i fynd am yr aur.”

Mae’n cyfaddef ei bod yn benderfyniad anodd iddo oherwydd mae’r ddau ddewis mor wahanol.

“Mae’r Tour yn fwy na 90 awr o rasio, ond dim ond 4 munud o ymdrech galed sydd ei angen ar y trac.”

Mae’n egluro fod y rasio ffordd yn help mawr iddo ddatblygu dygnwch hollbwysig ar ei feic, ond mae’n teimlo y gallai hefyd fod yn anfantais iddo seiclo gymaint â hynny eto cyn y gemau Olympaidd.

“Weithiau, mae’n gwneud i fi deimlo nad oes gen i’r nerth yna i roi hyrddiad mawr tua diwedd y ras,” meddai.

Bu Thomas, ynghyd a Bradley Wiggins, Ed Clancy a Paul Manning, yn fuddugol yn y ddisgyblaeth ‘team pursuit’ yng ngemau Olympaidd Beijing yn 2008, ac fe dorrwyd dwy record byd ar eu ffordd i’r fedal aur.

Mae’r atyniad o efelychu’r gamp honno yn ymddangos yn ddylanwad mawr ar ei benderfyniad i ddychwelyd i rasio’r trac a’r velodrome.

Taith noddedig elusennol

Ar Ddydd Sadwrn, Gorffennaf 30ain, bydd Geraint Thomas yn ymgymryd â thaith feic o Gaerdydd i Glwb Criced Dinbych – pellter o 170 milltir.

Mae’r daith noddedig wedi ei threfnu fel teyrnged i Arlywydd Clwb Criced Dinbych, Glyn Thomas, fu farw’r flwyddyn hon.

Sara, cariad Geraint Thomas yw’r ysgogiad y tu ôl i’r daith. Mae hi’n wyres i Glyn Thomas ac fe fydd hi’n rhannu’r byrdwn gyda Geraint ar gefn eu beic ‘tandem’ ar hyd y daith.

Wedi tair wythnos o rasio caled yn Ffrainc, mae’n siŵr y bydd rhaid i gariad Geraint wneud y mwyafrif o’r gwaith.