Mark Williams
Fe gollodd y Cymro Mark Williams yn rownd derfynol Pencampwriaeth Snwcer Awstralia.

Fe aeth hi i’r ffrâm ola’ yn y gêm rhyngddo â’r Sais, Stuart Bingham, yn ei rownd derfynol fawr gynta’.

Ar  un adeg, roedd hi’n ymddangos fod Williams am ennill yn hawdd wrth iddo fynd ar y blaen o dair ffrâm ac fe gafodd gyfleoedd i ennill yr ola’ hefyd, cyn colli o 80-34.

Roedd hynny’n golygu bod Bingham wedi ennill y pedair ffrâm ola’.

Roedd yna ddwy wobr gysur i’r chwaraewr o’r Cwm ger Glyn Ebwy – ef a gafodd rediad ucha’r bencampwriaeth gyda 142 ac mae’n cadw’i le yn brif ddetholyn y byd ar hyn o bryd.