Mae Cymru wedi cyhoeddi aelodau’r tîm fydd yn cynrychioli’r wlad yng Ngemau Gymanwlad Ieuenctid 2011 ar Ynys Manaw.

Mae Gemau Ieuenctid y Gymanwlad yn bencampwriaeth aml-gamp ar gyfer cystadleuwyr dan 18 oed, ac maent yn cael eu cynnal pob pedair blynedd.

Yn ôl ChwaraeonCymru mae’r gemau yn darparu cyfle i bobl ifanc sydd â siawns o ennill medalau yng Nglasgow yn 2014 i ddod i arfer gyda chystadlu ar lwyfan rhyngwladol yn erbyn athletwyr ifanc gweddill y Gymanwlad.

Yn ei blwyddyn agoriadol yn 2000, croesawyd y gemau i Gaeredin. Bu dros 540 o athletwyr ifanc o 14 o wledydd yn cymryd rhan mewn 8 gwahanol gamp. Hon fydd y bedwaredd tro i’r Gemau gael eu cynnal. Cynhelir hwy rhwng 7-13 o Fedi.

Pedair blynedd yn ôl yn Pune (India) fe aeth Cymru gyda thîm llawn o 37 o athletwyr, a llwyddwyd i orffen yn 6ed yn y tabl medalau.

Daethpwyd adref â chyfanswm o 16 o fedalau – 5 aur, 5 arian a 6 efydd. Dyma le daeth rhai o sêr newydd Cymru yng Ngemau Cymanwlad Delhi 2010 i’r amlwg – megis Jazz Carlin, Jemma Lowe a Georgia Davies.

Bydd tîm Cymru’n gobeithio y bydd y cnwd nesaf o athletwyr talentog yn amlygu eu hunain yn y gemau nesaf ar Ynys Manaw. Bydd carfan o 32 o athletwyr gwahanol yn teithio yno, yn cynnwys pencampwr ifanc nofio Ewrop, Ieuan Lloyd o Benarth.

“Rydym ni i gyd yn edrych ymlaen yn arw,” meddai Chris Jenkins, arweinydd tîm Cymru. “Roedd y rhai gafodd fedal yn y nofio yn Delhi 2010 wedi cael blas ar fuddugoliaeth yn y Gemau Ieuenctid yn Pune yn 2008, felly mae hynny’n arddangos pa mor bwysig gall profiad fel yma fod yn eu datblygiad.

“Bydd y gemau nesaf yn gam cadarnhaol ym mharatoadau’r rhai sy’n obeithiol o gystadlu yng Nglasgow 2014.”

Dyma restr o garfan llawn Cymru ar gyfer y gemau:

Nofio

  • Charlotte Bryan
  • Ellena Jones
  • Ieuan Lloyd
  • Sara Lougher
  • Sian Morgan
  • Lewis Smith
  • Oliver Tennant
  • Siwan Thomas-Howells
  • Chloe Tutton
  • Dan Woods

Athletau

  • Ffion Bodilly – Naid Uchel
  • Dewi Hammond – 100m
  • Carys Mansfield – Javelin
  • Ffion Price – 1500m
  • Elliot Slade – 800m
  • Matthew Field – Discus & Shot

Badminton

  • Daniel Font
  • Oliver Gwilt
  • Jordan Hart

Bocsio

  • Mitchell Buckland
  • Calum Evans
  • Joshua John
  • Nathan Thorley

Seiclo

  • Elinor Barker
  • Owain Doull
  • Daniel Pearson
  • Amy Roberts

Gymnasteg

  • Kiera Brennan
  • Harry Owen
  • Angel Romaeo
  • Roberts Sansby
  • Raer Theaker