Geraint Thomas
Mae Geraint Thomas wedi awgrymu y byddai yn ystyried gadael tîm Sky unwaith ddaw ei gytundeb gyda nhw i ben.

Datgelodd ei fod wedi derbyn sawl cynnig gan rai o wrthwynebwyr Sky ar y Tour de France, ond nid oedd yn fodlon dweud mwy na hynny.

Cyhoeddodd ar Twitter: “Mae rhai timau yn sicr wedi dangos diddordeb.” Ond yna fe ychwanegodd, “Ar y llaw arall, rhaid i mi gadarnhau…Dwi’n hapus iawn yma gyda Sky!”

Y Cymro yw arweinydd tîm Sky i bob pwrpas ar hyn o bryd, wedi i Bradley Wiggins dorri pont ei ysgwydd ar seithfed cymal y daith.

Clod

Mae Thomas wedi derbyn clod am ei berfformiadau cyson yn ystod y Tour eleni – y trydydd ei yrfa.

Mae’n brysur wneud enw i’w hun wedi iddo orffen yn y deg uchaf ar sawl achlysur hyd yn hyn.

Gorffennodd yn chweched yn y cymal agoriadol, yn drydydd yn rhagbrawf amser yr ail gymal, ac yna’n bumed yn y pumed cymal.

Fe fu’n gwisgo crys gwyn y beiciwr ifanc gorau am bum diwrnod, cyn ei golli wedi iddo aros ar ôl i helpu ei gyd-aelod yn nhîm Sky, Bradley Wiggins.

Yna, bu’n arwain am y mwyafrif o’r deuddegfed cymal mynyddig ac enillodd gwobr ar gyfer y beiciwr fwyaf ymosodol ar y diwrnod hwnnw.

Gemau Olympaidd

Un o brif ystyriaethau Geraint petai’n symud yw sut y byddai’r trosglwyddiad hwnnw’n effeithio’i gyfle i rasio gyda thîm Prydain yng ngemau Olympaidd Llundain yn 2012.

Fe enillodd fedal aur yn rhan o’r ‘team pursuit’ yn Beijing yn 2008, ac mae’r gemau Olympaidd yn amlwg yn parhau i fod yn flaenoriaeth yn ei yrfa.

“Mi fyddwn i’n caru gallu rasio’r Tour de France eto. Hon yw’r ras enwocaf yn y byd. Ond eto, mae’r gemau Olympaidd yn Llundain yn beth enfawr i fi hefyd… does dim byd mwy na hynny.”

Y broblem yw eu bod braidd yn agos at ei gilydd – bydda’r Tour de France yn gorffen deg diwrnod yn unig cyn i’r gemau gychwyn.

Os yn bosib, mi fyddai’n hoffi gallu cystadlu yn y ddau beth, ac mae’n bwriadu gwneud rhagbrofion ar drac dan do ar ôl y Tour er mwyn gweld faint mae’r daith yn debygol o effeithio’i berfformiad yn y gemau Olympaidd flwyddyn nesaf.

Ond os nad yw hi’n bosib cymryd rhan yn y ddau, yna mae Thomas yn gwybod lle mae ei flaenoriaethau. Mi fyddai’n aberthu ei le ar y Tour de France i gael lle ar dîm Prydain yn Llundain.

“Fyddwn i ddim yn peryglu’r gemau Olympaidd ar gyfer unrhyw beth. Dwi eisiau pob siawns o gael ennill yn Llundain.”

Cafodd tîm Sky ei sefydlu yn rhannol er mwyn cefnogi tîm seiclo Prydain, ond mae Thomas yn honni na fyddai symud i dîm arall yn peryglu ei uchelgeisiau Olympaidd

Meddai wrth wefan BBC Sport: “Mae rhai o’r timau dwi wedi siarad gyda nhw wedi dweud y bydden nhw’n ddigon hapus i mi gystadlu yn y gemau.”

“Dwi’n sicr yn mynd i ystyried pob cynnig a chyfle gai beth bynnag. Dydw i’m yn mynd i’w diystyru oherwydd mod i’n Brydeiniwr a gan fy mod i eisiau cystadlu yn y gemau Olympaidd.”