Geraint Thomas
Er gwaethaf gorffen yn 116eg ddoe mae Geraint Thomas yn dal i fod yn 42ain yn ras y Tour de France ac mae’n dweud ei fod yn hapus gyda’i berfformiad yn y  pymthegfed cymal

Fe ddywedodd wedyn ei fod yn disgwyl cael myw o lwyddiant cyn cyrraedd y llinell derfyn ym Mharis, er ei fod 35 munud a 27 eiliad tu ôl i’r arweinydd, y Ffrancwr Thomas Voeckler.

Y beiciwr o Ynys Manaw, Mark Cavendish, a ddaeth i’r brig ar ddiwedd y pymthegfed cymal  – ei bedwaredd buddugoliaeth mewn cymal o’r ras eleni, a’r bedwaredd ar bymtheg yn ystod ei yrfa yn y Tour de France.

Diwrnod i’r gwibwyr

Ras o 192.5km o Limoux i Montepellier oedd yr her i’r beicwyr Ddydd Sul.

Wrth iddyn nhw agosáu tuag at Fôr y Canoldir roedd pethau’n dechrau poethi wrth i Cavendish geisio cryfhau ei ymgais i ennill y siwmper werdd eleni.

Roedd y cymal fflat yn un agos iawn nes yr eiliadau olaf pan wnaeth Cavendish, efo 300 metr i fynd, ddechrau gwibio i’r llinell derfyn gan guro Tyler Farrar ac enillydd y crys gwyrdd 2010 Alessandro Petacchi.

Gyda’i oruchafiaeth pwyntiau nawr wedi ymestyn i 37 mae’n edrych yn debyg y bydd Cavendish yn gwisgo crys gwyrdd y gwibiwr gorau wrth i’r peloton gyrraedd Paris Ddydd Sul. Ond mae ef ei hun yn gwrthod cymryd dim yn ganiataol

“Dydw i ddim yn gwybod os ydw i wedi ennill y crys gwyrdd eto,” meddai. “Os edrychwch chi ar y canlyniadau o ddwy flynedd yn ôl, roedd hi’n ymddangos fy mod wedi ei ennill ond mi aeth Thor â hi.”

Gorffwys

Diwrnod o orffwys sydd i’r beicwyr  heddiw, ond ben  bore yfory fe fydd y gystadleuaeth yn dechrau unwaith yn rhagor a’r  beicwyr yn barod i feicio un o’r cymalau  enwocaf, sef 162.5km o Saint-Paul-Trois-Chateaux i Gap yn yr Alpau.

Mae’r ffefryn lleol Voeckler yn dal ei afael ar y siwmper felen ar hyn o bryd, gyda Frank Schleck yn ail, 1.49 munud y tu ôl iddo a Cadel Evans yn dynn ar ei sodlau yntau gydag 17 eiliad rhyngddyn nhw.

Gyda chwe chymal yn weddill ,mae coron y Tour de France 2011 dal i fod yn y fantol.