Peli a phriciau ar y bwrdd snwcer
Mae tîm Cymru yng Nghwpan y Byd Snwcer bron a chyrraedd  rownd yr wyth olaf.

Llwyddodd Mark Williams a Matthew Stevens i ennill eu trydydd gornest o’r bencampwriaeth gyda buddugoliaeth 3-2 yn erbyn Pakistan draw yn Bangkok.

Maent angen un ffrâm arall yn eu gêm olaf yn erbyn Gweriniaeth Iwerddon er mwyn gwarantu eu dyrchafiad i rownd yr wyth olaf.

“Mae’n grêt cael buddugoliaeth arall, ond y nifer o fframiau yr ydych chi’n eu hennill sy’n eich cael drwodd, ac felly dydi ennill y gêm ddim yn golygu dim mewn ffordd,” meddai Mark Williams.

“Roedden ni 3-0 ar y blaen, ac mi fydden ni wedi gallu sicrhau ein lle petai ni wedi ennill un ffrâm arall.

“Fe gawn weld beth fydd yn digwydd fory a beth fydd rhaid i ni wneud. Allwn ni guro Iwerddon 4-1, ond fedrwn ni hefyd golli 4-1.”