Fe drechodd Cymru’r Aifft 5-0 yn rownd gyntaf Cwpan Snwcer y Byd ddoe. Dyna’r tro cyntaf yn y bencampwriaeth eleni i un ochr ennill pob un ffrâm mewn gem.

Roedd cynrychiolwyr Cymru – Mark Williams a Mark Stevens – yn rhy dda ar gyfer Yaser Elsherbiny a Wael Talat o’r Aifft; gwlad sydd ddim yn un o enwau mawr y byd snwcer.

“Roedd yn ddechreuad perffaith, i ennill 5-0,” medd Stevens. “Fyddem ni wedi bod yn hapus  i ennill 3-2 i ddweud y gwir.

“Mi ferwn ni fod wedi colli un neu ddau o’r fframiau, felly roedden ni’n eithaf lwcus.”

Mae Mark Williams yn credu fod strwythur a ffurf y bencampwriaeth yn golygu y gall unrhyw wlad ei hennill.

“Mae’n siom fod cystadleuaeth o’r maint yma sydd a chymaint o bres, ddim yn caniatáu i ni chwarae gemau ychydig yn hirach,” meddai.