Logo Gemau'r Gymanwlad
Mae Sean McGoldrick wedi cael ei wobrwyo gyda’r fedal aur yn dilyn Gemau’r Gymanwlad yn Delhi y llynedd.

Fe gyhoeddodd Ffederasiwn Gemau’r Gymanwlad y penderfyniad ar ôl i Manju Wanniarachchi o Sri Lanka golli’r fedal aur ar ôl cael ei ganfod yn euog o dorri rheolau cyffuriau yn ystod y gemau.

Ni wnaeth Wanniarachchi gymryd y cyfle i apelio yn erbyn y penderfyniad ac fe fydd y Cymro’n cael ei wobrwyo â’r fedal mewn seremoni yng Nghaerdydd yfory.

Roedd Sean McGoldrick yn 18 oed yn y gemau llynedd ac ef oedd aelod ifancaf tîm bocsio Cymru.

“Mae Sean yn llawn haeddu’r fedal aur.  Mae’n anffodus iddo orfod disgwyl cymaint o amser am ei fedal,” meddai prif weithredwr Ffederasiwn Gemau’r Gymanwlad, Mike Hooper.

Mae pennaeth tîm Cymru yn y gemau, Chris Jenkins wedi dweud bod y tîm wrth eu bodd â’r newyddion.

“Mae’n rhaid canmol Sean am ei berfformiad gwych yn Delhi yn ogystal â’r ffordd y mae wedi ymddwyn ers i’r cyfan ddod i glawr. Mae wedi dangos ei broffesiynoldeb,” meddai Chris Jenkins.

“Mae hefyd yn amser i ddathlu gan fod Cymru wedi codi dau safle yn y tabl medalau – r’yn ni nawr yn y 13eg safle sy’n gydradd a’n perfformiad ym Melbourne yn 2006.”