Mae Rhys Davies yn benderfynol mai ef fydd y Cymro cyntaf erioed i ennill Pencampwriaeth Agored Cymru.

Fe sgoriodd Davies 62 yn ei rownd olaf yn y Celtic Manor y llynedd a dod yn agos at herio’r enillydd Graeme McDowell.

Dywedodd ei fod yn edrych ymlaen at ddychwelyd i Gymru ar gyfer y gystadleuaeth fydd yn digwydd yng Nghasnewydd rhwng 2 a 5 Mehefin.

“Fe fydd yn wych dychwelyd a chwarae adref yn enwedig ar y cwrs lle cefais i rownd o 62 yr haf diwethaf,” meddai Rhys Davies.

“Mae mwy o bobl yn eich adnabod yma ac maen nhw’n rhoi fwy o gefnogaeth i chi.  Mae’r cwrs yma’n gweddu i fy chwarae ac rwy wedi dod yn gyfarwydd gyda’r Celtic Manor.

“Mae’r cwrs yn haeddu denunifer o chwaraewyr proffesiynol Ewropeaidd ac rydw i wrth fy modd cael bod yn rhan o’r peth.”

Does yr un Cymro erioed wedi ennill Pencampwriaeth Agored Cymru, ond mae Davies ynghyd a Bradley Dredge wedi gorffen yn ail.