Geraint Thomas yn dathlu ei fuddugoliaeth (o wefan swyddogol Geraint Thomas)
Mae Geraint Thomas wedi sicrhau ei fuddugoliaeth gyntaf yn un o brif gystadlaethau seiclo’r byd ar ôl ennill Taith Bavaria dros y penwythnos.
Roedd y Cymro wedi dechrau diwrnod olaf y ras echdoe ar y blaen ar ôl gorffen yn bumed yng nghymal y diwrnod blaenorol.
Fe orffennodd Thomas, sy’n rasio gyda Team Sky, y cymal olaf yn yr unfed safle ar ddeg, ond fe orffennodd y daith 17 eiliad o flaen Nicki Sorensen o Ddenmarc oedd yn ail, gyda Michael Albasini o’r Swistir yn drydydd.
Canlyniad da i’r tîm
“Roedd yn ddiwedd gwych i’r wythnos – r’y ni wedi gorffen ar y podiwm pob dydd hefyd, felly mae wedi bod yn ras ardderchog i ni,” meddai Geraint Thomas.
“Mae’r tîm wedi gweithio’n dda iawn ac r’y ni wedi cyfathrebu’n dda. R’y ni wedi dechrau uno’n effeithiol fel uned wedi blwyddyn yn rasio”
Bydd y fuddugoliaeth yn hwb mawr i hyder Thomas wrth iddo baratoi ar gyfer y Tour de France sy’n dechrau ar 2 Gorffennaf.
“Ro’n i’n gwybod bod fy nghoesau mewn cyflwr da. Dwi wedi bod yn gweithio’n galed ac yn gwybod bod modd i mi wneud rhywbeth ond i’r cyfle iawn godi” meddai Thomas.
Fe fydd Geraint Thomas yn cael gorffwys am rai dyddiau cyn dechrau ar ras Criterium du Dauphine yn Ffrainc ar 5 Mehefin.