Nathan Cleverly (Jon Candy CCA 2.0)
Mae Nathan Cleverly’n gobeithio amddiffyn teitl byd is-drwm y WBO yng Nghymru.

Fe ddywedodd y pencampwr newydd wrth y BBC bod gornest yn erbyn yr Americanwr, Bernard Hopkins, yn “bosibilrwydd cryf”.

Yn sicr, meddai, gornest yn erbyn enw mawr o America fyddai’r targed nesa’, a hynny mewn gornest “dod adref” yng Nghymru.

Fyddai unman gwell ar gyfer hynny na Stadiwm y Mileniwm yng Nghaerdydd, meddai’r paffiwr o Gefn Fforest wrth Radio Wales.

Hopkins – yr hyna’

Bernard Hopkins sy’n dal y tri theitl byd arall yn y pwysau is-drwm – ac yntau’n 46 oed, ef yw’r paffiwr hyna’ i ennill teitl byd ac mae 22 o flynyddoedd yn hŷn na Cleverly.

Fe lwyddodd yntau i amddiffyn ei deitlau nos Sadwrn, pan oedd Cleverly’n ennill mewn pedair rownd yn yr 02 yn erbyn y Pwyliad Aleksy Kuziemksi.