Nathan Cleverly (o'i wefan)
Mae Nathan Cleverly wedi cael ei goroni’n bencampwr is-drwm WBO y byd ar ôl i Juergen Braehmer golli ei deitl am dynnu’n ôl o’r ornest rhwng y ddau nos Sadwrn.
Yn awr, fe fydd y Cymro’n wynebu bocsiwr diguro o Lerpwl o’r enw Tony Bellew wrth amddiffyn ei deitl am y tro cynta’ yn yr O2 yn Llundain. Mae wedi addo dial arno am ddweud pethau cas.
Fe benderfynodd y WBO y dylai Cleverly gael y teitl yn lle Braehmer ac roedd rhaid i’r hyrwyddwr, Frank Warren, ddod o hyd i wrthwynebyudd ar frys.
Mae Bellew, pencampwr is-drwm y Gymanwlad wedi bod yn galw am ornest gyda Cleverly ers tro ac fe fydd cefnogwyr y ddau yn disgwyl gornest ffrwydrol.
Meddai Cleverly
“Rwy’n hapus iawn y bydd Bellew yng nghornel arall y sgwâr nos Sadwrn. Yn ogystal â cael blas fy nicter i am fod Braehmer wedi tynnu’n ôl, mae hefyd yn mynd i dalu am fy meirniadu fi y llynedd,” meddai Nathan Cleverly.
Meddai Bellew
Ond mae Tony Bellew hefyd yn llawn hyder ac yn disgwyl i’r ornest orffen gyda’r Cymro ar y cynfas – mae deg o’i 15 gornest hyd yma wedi gorffen efo KO.
“Fydden i ddim wedi cytuno i’r ornest oni bai fy mod i’n gwybod y galla’ i guro Cleverly. Does dim gwahaniaeth os wy’n cael rhybudd o ddau fis neu ddau ddiwrnod, rwy’n gallu ennill yn ei erbyn,” meddai.