Nathan Cleverly
Mae Juergen Braehmer wedi tynnu yn ôl o’i ornest yn erbyn Nathan Cleverly oherwydd anaf i’w lygad.

Roedd disgwyl i’r Almaenwr amddiffyn coron is-drwm WBO y byd yn erbyn y Cymro yn yr O2 yn Llundain nos Sadwrn.

Ond doedd clwyf wrth ei lygad a ddioddefodd deg diwrnod yn ôl heb wella mewn pryd ar gyfer yr ornest a bu rhaid iddo dynnu ‘nôl.

Roedd Braehmer wedi ennill y goron ym mis Awst 2008 a dim ond unwaith mae o wedi amddiffyn ei deitl ers hynny.

Ym mis Ionawr eleni fe dynnodd Braehmer yn ôl o ornest yn erbyn Beibut Shumenov.

Fe allai’r Almaenwr golli ei goron nawr, ac os fydd hynny’n digwydd bydd Nathan Cleverly, sy’n bencampwr interim yn cael ei wobrwyo yn awtomatig.

Mae hyrwyddwr Cleverly, Frank Warren wedi galw ar yr WBO i naill ai wobrwyo’r Cymro gyda’r goron neu ganiatau iddo ymladd am y teitl nos Sadwrn yn erbyn gwrthwynebydd arall.