Nathan Cleverly
Mae Nathan Cleverly wedi dweud mai ei ornest yn erbyn Juergen Braehmer nos Sadwrn fydd yn diffinio gweddill ei yrfa.

Mae’r Cymro diguro yn wynebu’r Almaenwr yn yr O2 yn Llundain wrth iddo geisio cipio coron is-drwm WBO y byd.

“Fe frwydrodd Ricky Hatton Kostya Tyszu, fe gurodd Joe Calzaghe Jeff Lacy, ac mae fy ornest i yn debyg i’r rheini,” meddai Nathan Cleverly.

“Mae fy ngyrfa gyfan wedi bod yn adeiladu tuag at yr eiliad yma, ac rwy’n barod i gymryd fy nghyfle.

“Mae cael y cyfle i wynebu pencampwr y byd, ac ennill coron y byd, wedi bod yn freuddwyd i mi erioed.

“Rwy’n barod am yr ornest ac rwy’n credu mai dyma fy nghyfle mawr. Roeddwn ni yn y dorf pan enillodd Calzaghe yn erbyn Lacy.

“Fe fynnodd Joe sylw’r byd y noswaith honno a dw i’n bwriadu gwneud yr un peth yn erbyn Braehmer.”

Hopkins nesaf?

Mae’r hyrwyddwr bocsio, Frank Warren, wedi dweud ei fod yn awyddus i drefnu sawl gornest yn erbyn rhai o enwau bocsio mawr y byd pe bai’r Cymro yn llwyddo nos Sadwrn.

Un posibilrwydd yw y gallai Cleverly wynebu enillydd yr ornest rhwng Bernard Hopkins a Jean Pascal sydd hefyd yn cael ei gynnal nos Sadwrn.

Mae Chad Dawson a Tavoris Cloud hefyd wedi eu crybwyll.

“Trefnais i’r ornest yn erbyn Hopkins ar ran Joe Calzaghe ac fe fydden ni wrth fy modd  pe bai Hopkins ar gael i wynebu seren newydd Cymru, Nathan Cleverly,” meddai Frank Warren.

“Mae bocswyr yr adran is-drwm o safon ardderchog ar hyn o bryd.”