Tom James
Mae’r rhwyfwr o Gymru, Tom James, yn ôl yn nhîm Prydain am y tro cyntaf ers dwy flynedd.
Mae wedi ei ddewis yn y garfan ar gyfer regata Cwpan y Byd agoriadol y tymor yn Munich yn hwyrach yn y mis.
Roedd James yn rhan o’r tîm enillodd fedal aur yng Ngemau Olympaidd Beijing yn 2008.
Fe gymerodd y Cymro seibiant o rwyfo am flwyddyn yn dilyn y Gemau Olympaidd ac yna cafodd ei anafu gan ei gadw allan am flwyddyn arall.
Fe fydd y Cymro yn ymuno gydag Ric Egington, Matt Langridge ac Alex Gregory yn y tîm ar gyfer y gystadleuaeth yn yr Almaen rhwng 27 a 29 Mai.
“Mae’n wych bod gennym ni dîm mor gryf yn mynd i Munich. Mae’r Cwpan y Byd yn wobr fawr ond mae hefyd yn rhoi cyfle i ni weld sut mae’r tîm wedi datblygu dros y gaeaf,” meddai cyfarwyddwr perfformiad Prydain Fawr, David Tanner.