Abertawe
Mae’r canolfan chwaraeon newydd cyntaf o’i fath yng Nghymru wedi ei agor mewn ysgol uwchradd yn Abertawe heddiw.

Mae canolfan chwaraeon adiZone wedi ei leoli yn Ysgol Pentrehafod ac mae’n cynnwys cyfleusterau ar gyfer pêl droed, pêl fasged, dringo, tenis, dawnsio, aerobeg yn ogystal â gym.

Mae’r cyfleusterau adiZone wedi eu creu gan gwmni chwaraeon Adidas. Fel rhan o’r paratoadau ar gyfer Gemau Olympaidd a Pharalympaidd Llundain yn 2012 maen nhw’n gobeithio denu  mwy o bobl ifanc a’u teuluoedd i gymryd rhan mewn chwaraeon.

Mae’r ganolfan wedi derbyn cyllid gan Gyngor Abertawe a Llywodraeth y Cynulliad.

Bydd y ganolfan ar agor am ddim i’r holl gymuned ac fe fydd yna ddigwyddiadau chwaraeon dyddiol yn cael eu cynnal yno gan Ysgol Pentrehafod.

“Abertawe yw’r awdurdod lleol cyntaf yng Nghymru i gael adiZone ac fe fydd y lansiad swyddogol yn helpu i godi ymwybyddiaeth o’r cyfleusterau,” meddai Rheolwr Datblygu Cyngor Abertawe, Ian Beynon.

“Mae’r adiZone yn cynnig gymaint o wahanol fathau o chwaraeon a ffitrwydd.  Fe fydd yn annog pobl ifanc i fwynhau ymarfer corff a chwaraeon, ac fe fydd o fudd i’r ysgol a’r gymuned.”

Dywedodd cyfarwyddwr marchnata Adidas yn y Deyrnas Unedig ac Iwerddon, Nick Craggs, ei fod yn bwysig fod yna gyfleusterau chwaraeon am ddim ar gael er mwyn annog mwy o bobl i gymryd rhan mewn gweithgareddau.