Nathan Cleverly
Mae Nathan Cleverly wedi dweud ei fod yn bwriadu ymladd Carl Froch pe bai’n curo Jurgen Braehmer yn hwyrach yn y mis.

Fe fydd Cleverly yn wynebu’r Almaenwr yn Llundain ar 21 Mai wrth iddo geisio cipio coron WBO is-drwm y byd.

Mae’r Cymro’n credu y byddai buddugoliaeth yn erbyn Braehmer yn rhoi’r cyfle iddo drefnu gornest Brydeinig yn erbyn Carl Froch.

“Fe fyddai gymaint o ddrysau’n agor pe bawn i’n curo Braehmer. Fe fyddai wynebu Carl Froch yn gyfle gwych,” meddai Nathan Cleverly.

“Roedd Carl wedi bod eisiau ymladd Joe Calzaghe erioed. Ond mae Joe wedi gorffen felly fe allai fy wynebu i yn lle.

“Mae cefnogwyr bocsio Prydain yn haeddu gornestau mawr a gorau po gyntaf y gallwn ni drefnu rhywbeth.

“Fe fyddai’n ornest ardderchog, ond mae’n rhaid i mi ennill y goron is-drwm yn gyntaf.”

Enzo Maccarinelli

Mae Enzo Maccarinelli wedi dweud y gallai dychwelyd i’r sgwâr bocsio unwaith eto ym mis Gorffennaf.

Mae cyn-bencampwr y byd yn bwriadu cystadlu ar lefel pwysau is-drwm yn dilyn cyfres o golledion.

Mae’r Cymro’n dal i gredu y gallai focsio ar y lefel uchaf ar ôl ail ymuno gyda’i gyn hyfforddwr Enzo Calzaghe.

Mae hefyd wedi trafod dyddiad posib i ddychwelyd i’r sgwâr gyda’r hyrwyddwr Frank Warren.

“Mae bod yn ôl gydag Enzo wedi gwneud lles i mi.  Rwy’n gwybod ei fod yn fy ngwthio i’r eithaf ym mhob sesiwn ymarfer,” meddai Enzo Maccarinelli.

“Mae’r awch i focsio dal yna ac rwy’n mwynhau pob eiliad.”