Jade Jones
Mae Jade Jones wedi ennill medal arian ym Mhencampwriaeth Tae Kwondo y Byd yn Ne Korea.

Fe gollodd y ferch 18 oed o Sir Y Fflint i bencampwraig y byd, Hou Yuzhuo, o Tsieina ar y rheol pwynt aur.

Roedd y Gymraes wedi curo Marlene Harnois o Ffrainc yn rownd cyn derfynol categori 58kg y gystadleuaeth y bore ‘ma.  Fe ennillodd Jade Jones 8-7 gyda phwynt aur ar ôl i’r ornest orffen 7-7.

Roedd Jones wedi cyrraedd y rownd cyn derfynol ar ôl i’w gwrthwynebydd, Bineta Diedhiou o’r Senegal, roi’r gorau i gystadlu gydag anaf yn ystod eu gornest ddoe.

Mae Jade Jones eisoes wedi profi llwyddiant ar ôl ennill y fedal aur yng Ngemau Olympaidd y Ieuenctid y llynedd.

Mae’r Gymraes yn gobeithio mynd yn ei blaen i gystadlu yng Ngemau Olympaidd Llundain y flwyddyn nesaf.