Mark Williams - angen chwe ffram aral
Mae Mark Williams ddwy ffrâm y tu ôl i John Higgins ar ôl trydydd sesiwn siomedig yng ngemau cyn-derfynol Pencampwriaeth Snwcer y Byd Betfred.com y bore yma.

Gan ailddechrau’r chwarae gyda mantais o 9-7, llwyddodd y Cymro i gadw’r bwlch rhyngddo a’i wrthwynebydd John Higgins ar y dechrau gyda’r sgôr yn 11-9 ar ôl pedair ffrâm.

Llithro a wnaeth y Cymro wedi hynny cholli’r pedair ffrâm ddilynol i Higgins, a oedd 13-11 ar y blaen erbyn diwedd y sesiwn.

Golyga hyn nad oes ar Higgins ond angen pedair ffrâm arall i ennill yr ornest gorau-o-33 a sichrau lle yn y rownd derfynol yfory.

Mark Williams oedd pencampwr y gystadleuaeth yn 2000 a 2003, ac fe ddaeth yn ail yn 1999. Petai’n llwyddo i adennill tir fe fyddai arno angen chwe ffrâm i gyrraedd y ffeinal am y pedwerydd tro.

Fe fydd y chwarae’n ailddechrau am 7 heno.