Mark Williams
Llwyddodd Mark Williams i gyflawni dau doriad o gant mewn tair ffrâm yng ngemau cyn-derfynol pencampwriaeth byd Betfred.com.

Ar un adeg roedd bedair ffrâm ar y blaen i’w wrthwynebydd John Higgins, ond llwyddodd yr Albanwr i ddal i dir gan dorri mantais Mark Williams i ddwy ffrâm erbyn diwedd y dydd.

Roedd y chwarae wedi cychwyn gyda Williams eisoes yn arwain 5-3.

Ar ôl ennill ffrâm yr un, aeth Williams ymlaen i gael toriad o 115 yn y ffrâm wedyn, ond ar ôl methu ar y werdd, roedd yn dal yn sylweddol fyr o ennill gwobr o £10,000 am doriad gorau’r gystadleuaeth. Mae honno’n dal yn ddiogel ar hyn o bryd i Mark King gyda’i 138.

Enillodd Higgins y ffrâm nesaf, ond cafodd Williams ei ail doriad o gant gyda 103 yn y gêm wedyn.

Ar ôl i Higgins daro’n ôl ac ennill dwy o’r tair gêm olaf, fe fydd y chwarae’n ailgychwyn yfory gyda’r sgôr yn 9-7 i Williams.