Williams ar y blaen
Mae’r Cymro Mark Williams 5-3 ar y blaen ar ddiwedd ei sesiwn cynta’ yn rownd gynderfynol Pencampwriaeth Snwcer y Byd.

Ei wrthwynebydd, John Higgins, a gafodd y sgoriau mawr – gyda rhediadau o 135 a 120 – ond fe chwaraeodd Williams yn fwy cyson gyda rhediadau canolig yn y gweddill.

Mae’r chwaraewr o’r Cwm yn ceisio ennill y teitl am y tro cynta’ ers 2003 – roedd Higgins wedi ennill ddwy flynedd yn ôl.

Mae Higgins wedi ennill y bencampwriaeth deirgwaith o’i gymharu â dwywaith Mark Williams.

Y cynta’ i 17 ffrâm fydd yn ennill i gwrdd enillydd y gêm arall rhwng Judd Trump a Ding Junhui – ar ddiwedd y sesiwn cynta’, roedd Trump hefyd 5-3 ar y blaen.