Mark Williams
Mae’r Cymro, Mark Williams, o fewn dwy ffrâm i gyrraedd rownd gyn derfynol Pencampwriaeth Snwcer y Byd.

Ddoe, fe aeth ymhellach ar y blaen yn erbyn y Sais, Mark Allen, gan fynd o 5-3 ar ddechrau’r sesiwn i 11-5 erbyn y diwedd.

Fe gafodd ddau rediad o fwy nag 80 i ennill tair ffrâm cyn i Allen daro’n ôl i’w gwneud hi’n 8-5. Ond roedd yna ddau rediad o fwy na 100 gan y Cymro wrth iddo ennill y tair nesa’.

Yn ôl rhai, mae’r chwaraewr o Cwm yng Ngwent, yn chwarae’n well nag ar unrhyw adeg ers iddo ennill y Bencampwriaeth am yr ail dro yn 2003.