Yn yr wyth ola'
Mae’r chwaraewr o Went, Mark Williams, wedi ceisio tawelu ychydig ar obeithion pobol wrth iddo ennill ei le yn wyth ola’ Pencampwriaeth y Byd.

Er ei fod wedi chwalu’r Sais, Jamie Cope, o 13-4 ac ennill yn y trydydd sesiwn, doedd y dyn o’r Cwm ddim yn dathlu gormod.

“Wnes i ddim chwarae cystal â hynny,” meddai. “Roedd llawer yn ddyledus i’r cyfleoedd hawdd a roddodd e i fi.”

Roedd yn cydnabod ei fod wedi chwarae’n dda ar ddiwedd ei gêm rownd gynta’ yn erbyn y Cymro arall, Ryan Day, ond doedd e ddim am wrando ar sôn ei fod yn chwarae gystal ag yn y ddwy flynedd pan enillodd y bencampwriaeth.

Y peli, nid y dyn

“Chwarae’r peli fydda’ i, nid y dyn,” meddai wrth y wasg ar ôl y gêm. “Os ydy’r peli’n mynd i mewn, mae gen i gyfle i guro unrhyw un. Os nac ydyn nhw’n mynd i mewn, fydda’ i ar fy ffordd adre’.”

Roedd wedi dechrau’r ail sesiwn 7-1 ar y blaen ac, er bod Cope wedi cael rhediadau da i gipio ffrâm neu ddau, fe drawodd Williams yn ôl gyda chwpwl o gannoedd.

Fe fydd yn chwarae nesa’ yn erbyn enillydd y gêm rhwng Mark Allen a Barry Hawkins.