Mark Williams
Mae Mark Williams yn credu y gallai ennill ei drydedd Bencampwriaeth Byd eleni – ond mae’n cydnabod ei fod Ronnie O’Sullivan yn fygythiad. 

 Fe gurodd Williams ei gydwladwr, Ryan Day 10-5 yn rownd gyntaf y gystadleuaeth yn y Crucible yn Sheffield.  Bydd y Cymro yn wynebu Jamie Cope yn yr ail rownd. 

 Roedd Mark Williams wedi ennill Pencampwriaeth y Byd yn 2000 a 2003 ac mae wedi codi i’r ail safle yn rhestr detholion y byd.  Fe ddaw hyn dair blynedd ers iddo ddisgyn allan o’r 16 uchaf y byd. 

 “Rwy’n ffyddiog ac yn chwarae’n weddol.  Mae fy ngêm gyffredinol yn dda,” meddai Mark Williams. 

 “Y cyfan rwyf wastad yn dweud yw y byddai’n anodd curo.  Dw i ddim yn chwarae unrhyw le’n agos i safon 2003, a dw i ddim yn credu y byddai’n chwarae fel yna eto.

 “Ond rwy’n fwy doeth na beth oeddwn i bryd hynny ac mae pethau’n mynd yn iawn ar hyn o bryd.”

 Fe fydd Ronnie O’Sullivan yn dechrau ar ei ymgyrch ef yn erbyn Cymro arall, Dominic Dale heddiw. 

 Mae’r Sais yn mynd mewn i’r gystadleuaeth ar gefn pedair colled yn olynol yn rownd gyntaf rhai o brif gystadlaethau snwcer. 

 Roedd O’Sullivan wedi ffonio trefnwyr Pencampwriaeth y Byd i ddweud na fyddai’n cystadlu eleni, cyn newid ei feddwl 24 awr yn hwyrach. 

 Mae Mark Williams yn credu y gallai Ronnie O’Sullivan, sydd wedi ennill y gystadleuaeth ar dri achlysur o’r blaen, gipio’r goron unwaith eto. 

 “Does neb yn gwybod pa Ronnie O’Sullivan bydd yn troi lan yn Sheffield.  Does neb yn gwybod beth sy’n mynd trwy ei feddwl,” meddai Mark Williams. 

 “Ef fydd y chwaraewr i’w guro os fydd e’n troi lan a rhoi 100%.  Ond fydd Dominic ddim yn gêm hawdd iddo.”