Mae dau o chwaraewyr y Cardiff Devils wedi cael eu cynnwys yng ngharfan 23 dyn Prydain Fawr ar gyfer Pencampwriaeth y Byd yn y Wcráin.  

 Mae Phil Hill a Mark Richardson wedi cael ei gynnwys yn y garfan ar gyfer y bencampwriaeth sy’n dechrau yn Kiev wythnos nesaf. 

 Roedd Prif Hyfforddwr Prydain Fawr, Paul Thompson wedi lleihau’r garfan o 28 i 23 yn dilyn gemau cyfeillgar yn erbyn yr Iseldiroedd dros y penwythnos. 

 “Pob tro mae’n rhaid i mi leihau’r garfan mae’r penderfyniadau’n mynd yn anoddach.  Ond dyma’r garfan orau’r ydyn ni wedi gallu gweithio gyda hi ers tro,” meddai Paul Thompson. 

 Fe fydd Prydain Fawr yn dechrau’r bencampwriaeth yn erbyn Wcráin cyn chwarae yn erbyn Kazakhstan, Gwlad Pwyl, Lithwania ac Estonia.