Ballabriggs (14-1) sydd wedi ennill ras y Grand National yn Aintree eleni.
Roedd yn fuddugol yn ras geffylau enwocaf Ynysoedd Prydain, gan gipio’r wobr £950,000.
Jason Maguire oedd y joci buddugol. Bu’n rhaid iddo adael y ceffyl yn syth am ei fod yn dioddef o ddiffyg hylif.
Oscar Time (14-1) oedd yn ail. Yr enillydd y llynedd, Don’t Push It (9-1) gyda Tony McCoy ar ei gefn, ddaeth yn drydydd.
State Of Play (28-1) oedd yn bedwerydd a Niche Market (16-1) oedd yn bumed.
Bu’n rhaid osgoi dau ffens ar yr ail gylchdaith oherwydd bod ceffylau yn derbyn triniaeth gerllaw.
Mae’r ras yn cael ei chynnal dros bedair milltir a 856 llath, gan gynnwys 30 ffens.