Nathan Cleverly
  Er ei fod yn croesawu cael ei gymharu gyda Joe Calzaghe, mae talent bocsio diweddara’ Cymru yn dweud ei fod yn awyddus i ddod yn bencampwr y byd er mwyn cael ei gydnabod ar ei delerau ei hun.  

Mae Nathan Cleverly wedi cael ei gymharu gyda’r pencampwr di-guro ar ôl dechrau ymarfer yn yr un gampfa â Calzaghe. 

 Ond mae pencampwr interim is-drwm WBO yn benderfynol o gamu allan o gysgod Calzaghe pan fydd yn herio Juergen Braehmer I fod yn bencampwr y byd yn Llundain ar Fai 21. 

 “Fe fyddai ennill y goron yn fy ngalluogi i ddod allan o gysgod Joe,” meddai Nathan Cleverly. 

 “Rwyf wedi dechrau gwneud hynny dros y naw ornest olaf wrth ennill coronau Prydeinig, y Gymanwlad ac Ewropeaidd.

 “Yn amlwg rwy’n cael fy nghymharu â Joe. Roedd Joe yn ardderchog ac mae’n beth positif i dderbyn y gymhariaeth yna.

 “Fe fyddai’n deimlad gwych i ennill ac rwy’n agos i gyflawni hynny.”