Ryan Day

Mae’r chwaraewr snwcer o Gymru, Ryan Day wedi curo Ronnie O’Sullivan yn rownd gyntaf Pencampwriaeth Agored Tsieina. 

Dyma’r ail fuddugoliaeth yn olynol i’r Cymro yn erbyn O’Sullivan ar ôl ei lwyddiant ym Mhencampwriaeth Agored Cymru. 

Fe fydd y Cymro yn mynd ‘mlaen i wynebu Stephen Lee yn ail rownd y gystadleuaeth dydd Iau. 

“Rwy’n hapus i ennill, ond doedd hi ddim yn gêm dda ac ro’n i’n ffodus ar rhai achlysuron,” meddai Ryan Day. 

“Fe wnes i fethu rhai cyfleoedd, ond roedd rhaid derbyn hynny a gwneud gorau o’r sefyllfa”

“Mae wastad yn braf cael ennill yn erbyn Ronnie gan mae ef yw’r dyn i guro yn y mwyafrif o gystadlaethau”

“Mae’n neis i gael y fuddugoliaeth, ond dim ond y rownd gyntaf yw hon – mae ‘na ffordd bell i fynd yn y gystadleuaeth.”