Mae’r Gymraes Lauren Williams wedi ennill medal aur yn Grand Prix Taekwondo y Byd yn Llundain.

Roedd hi’n cynrychioli tîm Prydain yn y CopperBox Arena neithiwr pan drechodd hi Ruth Gbagbi o’r Côte d’Ivoire o 43-23 yn y rownd derfynol hyd at 67kg.

Curodd hi Rabia Gulec o’r Almaen yn y rownd gyntaf cyn mynd ymlaen i guro Nur Tatar o Dwrci, pencampwraig y byd, ar bwynt aur.

Paige McPherson, enillydd y fedal aur yng Ngemau Olympaidd Llundain, oedd ei gwrthwynebydd yn y rownd gyn-derfynol.

Yn dilyn ei buddugoliaeth, dywedodd Lauren Williams mai dyma’r tro cyntaf iddi fwynhau cystadleuaeth.