Mae Andrew Selby gam yn nes at ornest i fynd am wregys WBC y byd ar ôl trechu Maximino Flores o Fecsico yn Llundain nos Sadwrn.

Enillodd y Cymro ar bwyntiau o 119-109, 117-111 a 117-112, fel ei fod e’n ddi-guro mewn deg gornest broffesiynol hyd yn hyn.

Dywedodd ar ôl yr ornest ei fod e’n “hapus” gyda’i berfformiad.

Mae ei frawd, Lee eisoes yn bencampwr y byd.

Mae disgwyl iddo wynebu Daigo Higa o Siapan pe bai hwnnw’n amddiffyn ei deitl yn erbyn Thomas Masson ar Hydref 22.