Rhai o'r rhedwyr ar strydoedd Caerdydd y bore yma
Mae dros 25,000 o redwyr wedi bod yn cymryd rhan yn Hanner Marathon Caerdydd, y nifer mwyaf erioed.

Cychwynnodd y ras am 10 y bore y tu allan i Gastell Caerdydd, a dau athletwr o Kenya oedd yn fuddugol – John Lotiang yn ras y dynion ac Edith Chelimo yn ras y merched.

Llwyddodd y ddau hefyd i dorri record y cwrs, a daeth y Cymro, Dewi Griffiths, yn bedwerydd ar ôl ei berfformiad gorau ganddo.

Ers ei sefydlu yn 2003, mae’r Hanner Marathon wedi tyfu yn ei phoblogrwydd fel ei bod bellach y trydydd digwyddiad mwyaf poblogaidd o’i fath ym Mhrydain ar ôl Marathon Llundain a’r Great North Run.