Elinor Barker (Llun: SWPix)
Roedd y Gymraes o Gaerdydd wedi hen flino ar esgusodion.

Ond mae wedi gorffen yn 19eg yn y ras yn erbyn y cloc ym Mhencampwriaeth Seiclo’r Byd yn Bergen, Norwy – ac mae hi’n fodlon ar hynny.

Cafodd broblem fecanyddol ar ddringfa, ond fe ddaeth dros hynny.

Annemiek van Vleuten o’r Iseldiroedd oedd yn fuddugol mewn amser o 28 munud 50.35 eiliad, gydag aelod arall o’r tîm, Anna Nan der Breggen, yn ail, a Katrin Garfoot o Awstralia yn drydydd.

“Wnes i ddweud y baswn i’n hapus i orffen yn yr ugain uchaf, felly dydw i ddim yn cwyno am orffen yn 19fed,” meddai Elinor Barker wrth golwg360.

“Rwy’n edrych ymlaen at roi’r rasys yn erbyn y cloc y tu cefn i fi, dw i ddim wedi cael llawer o lwc yn y rasys hyn, felly rwy’n barod i newid…

“Mi ges i broblem fecanyddol ar y rhiw – ro’n i wedi colli fy mhen ac roedd fy nghoesau wedi blino.”

Mae Elinor Barker yn un o’r chwe beiciwr sy’n cefnogi pencampwr 2015 ,Lizzie Deignan, yn ras y ffordd ddydd Sadwrn (Medi 23).

Wiggle High5

Mae Elinor Barker wedi cytuno i ail-ymuno â thîm beicio ffordd ‘Wiggle High5′ o Ionawr 1, 2018.

Roedd y feicwraig 23, yn aelod o Wiggle-Honda yn eu tymor  cyntaf yn 2013-14, cyn ymuno â Matrix Fitness yn 2015.

Mae’r Gymraes bellach yn gobeithio cystadlu ar y ffordd a’r trac yng Ngemau’r Gymanwlad yn Awstralia fis Ebrill nesaf. Fe ddaw’r gemau fis wedi Pencampwriaeth Trac y Byd.

Scott Davies

Yn y ras yn erbyn y cloc i ddynion o dan -23, mi orffennodd y Cymro, Scott Davies, yn y degfed safle allan o 57, ac mewn amser o 48:49.50.

Roedd yn amlwg i Scott Davies roedd ddim am ennill amser Mikkel Bjerg o Ddenmarc, felly mi wnaeth ffocysu ar geisio cael lle ar y podiwm, ond gyda Davies yn blino ar y  dringfeydd, mi agorodd y bwlch rhwng beiciwr Tîm Wiggins a’r medalau yn fwy. 

Fe orffennodd 1 munud 43.02 eiliad y tu ôl i’r enillydd, Bjerg, lai na 30 eiliad y tu ôl i’r beiciwr gafodd y fedal efydd.

Fe fydd Scott Davies nawr yn troi ei olygon at y ras ffordd bnawn ddydd Gwener.