Gorffennodd Geraint Thomas Daith Prydain yng Nghaerdydd yn y seithfed safle – y safle uchaf ymhlith y cystadleuwyr o wledydd Prydain.

Ei wobr yw gwerth ei bwysau ei hun o gwrw Adnam’s.

Lars Boom o’r Iseldiroedd ddaeth i frig y gystadleuaeth, wrth i Edvald Boasson Hagen o Norwy ennill y cymal olaf rhwng Caerwrangon a Chaerdydd.

Roedd siom i Mark Cavendish wrth iddo orfod tynnu’n ôl o’r ras ar y diwrnod olaf.

Yn y cyfamser, mae Chris Froome, cyd-aelod o dîm Sky gyda Geraint Thomas, wedi ennill ras y Vuelta yn Sbaen.