Fe fydd mwy na 2,000 o bobol yn cystadlu yn Ironman Cymru yn Ninbych-y-Pysgod heddiw.

Fe fydd y triathlon yn cynnwys athletwyr o 45 o wledydd, a byddan nhw’n cystadlu am y brif wobr am nofio 2.4 milltir, seiclo 112 milltir a rhedeg 26 milltir.

Mae disgwyl i’r digwyddiad roi hwb o £3.7 miliwn i’r economi.

Ffyrdd ynghau

Fe fydd nifer o brif ffyrdd y dref ynghau yn ystod y dydd, ond bydd yr A477 a’r A40 ar agor.

Mae mannau croesi arbennig wedi’u pennu ar gyfer beiciau, ond mae rhybudd i yrwyr ceir y gall fod oedi hir.

Mae parcio ar gael yng nghanol y dref, a gwasanaeth parcio a theithio ar gael i fynd â phobol i Ddinbych-y-Pysgod a Saundersfoot o faes awyr Caeriw.

Fe fydd Ironman Cymru yn cael ei gynnal yn flynyddol yn Sir Benfro tan o leiaf 2021.