Geraint Thomas (Llun: Tim Sky)
,Mae Tîm Sky wedi cyhoeddi eu carfan ar gyfer ymgyrch y ‘Tour of Britain’ 
yn 2018.

Mae’r ras yn dechrau yng Nghaeredin ddydd Sul, Medi 3 gyda nifer o gymalau i siwtio gwibwyr.

Bydd Geraint Thomas a’r Cymro Owain Doull yn dychwelyd i Gaerdydd am y cymal olaf wythnos i ddydd Sul.

Bydd y ras y digwyddiad cyntaf i Geraint Thomas gymryd rhan ynddo ers crasho allan o’r Tour de France. Enillodd y Cymro’r prolog, ac fe wisgodd y crys melyn am nifer o ddiwrnodiau cyn gorfod gadael y ras oherwydd damwain.

Mae o’n targedu ennill cymal nid ennill y ras ac mae’n gobeithio cymryd rhan ym mhencampwriaeth y byd yn Bergen, Norwy ,mis nesaf.

“Mae’r gefnogaeth gan y cyhoedd yn y ras bob tro’n wych. Mae gennym garfan gref ac rwyf yn edrych ymlaen at y ras.” Meddai Thomas mewn datganiad cafodd ei rhyddhau gan ei dîm.

Cefnogaeth wych

 “Mae dod yn ôl i Gaerdydd yn mynd  i fod yn arbennig, ac mae’r hogiau o Gymru wedi bod yn sgwrsio amdano ers i’r ras cael eu cyhoeddi,dw i’n siŵr bydd cefnogaeth wych i’r ras yn y brif ddinas,” meddai.

Mae’r ras yn dod i ben yng Nghaerdydd ar ddydd Sul Medi 10.

Tim Sky yn y Tour of Britain yw Geraint Thomas, Elia Viviani, Owain Doull, Tao Geoghegan Hart, Vasil Kiryienka a Michal Kwiatkowski.