Colin Jackson
Mae cyn-athletwr o Gymro wedi bod yn trafod ei rywioldeb yn ystod cyfweliad ar deledu yn Sweden.

Roedd Colin Jackson, sy’n hanu o’r Rhws ger Caerdydd, yn siarad ar raglen o’r enw Rainbow Heroes ar sianel SVT y penwythnos hwn, ac yn trafod yn agored am y tro cyntaf ei fod yn ddyn hoyw.

Roedd yn cymryd rhan yn y rhaglen gyda dau gyn-athletwr arall – y bencampwraig naid uchel Kajsa Bergqvist a’r neidiwr Peter Häggström.

Dywedodd Colin Jackson, 50, ei fod wedi dewis peidio â dod allan cyn hyn, oherwydd nad oedd am i’r stori gael ei chwyddo y tu hwnt i bob rheswm.

Ond nawr, meddai, mae’n teimlo ei bod yn bryd iddo rannu sut y mae ei rywioldeb wedi effeithio arno, ac ar ei yrfa.

Fe fu Colin Jackson yn cynrychioli Cymru yng Ngemau’r Gymanwlad, ac mae’n enillydd medal arian Olympaidd ar y ras 100m dros y clwydi.