Mae’r Cymro Nathan Cleverly wedi cyhoeddi ei fod yn ymddeol o’r byd paffio ar ôl colli ei deitl pwysau is-drwm neithiwr.

Cafodd ei drechu gan Badou Jack ym mhumed rownd ei ornest yn Las Vegas ar yr un cerdyn â’r ornest rhwng Floyd Mayweather a Conor McGregor.

Dyma’r pedwerydd tro yn ei yrfa iddo golli gornest, a hynny wrth iddo geisio gadw ei afael ar ei wregys WBA a gafodd ei ennill yn dilyn buddugoliaeth dros Juergen Braehmer fis Hydref y llynedd.

Ar ei dudalen Twitter, dywedodd: “Amser dweud ffarwel. Diolch a hwyl fawr, focsio. Dw i wedi ei fyw ac wedi caru pob eiliad o’r gamp hon. Ychydig yn ormod o filltiroedd ar y cloc.”