Taith o gwmpas Cymru (Llun: Guy Swarbrick)
Fe fydd tref Brynmawr yn llawn bwrlwm dros y penwythnos wrth i daith o amgylch Cymru y beicwyr ifanc ymweld â’r ardal. 

Fe fydd cant o feicwyr ifanc gorau’r wlad yn cystadlu mewn pum cymal dros 215 o filltiroedd.

Mae’r ras sy’n cael ei chynnal dros benwythnos Gŵyl y Banc yn dechrau gyda’r ras yn erbyn y cloc nos Wener (heno, Awst 25) ar Sgwâr y Farchnad, Brynmawr, ac yn gorffen ar y Tymbl, un o’r ddringfeydd enwocaf de Cymru.

Mae’r ddringfa wedi bod yn rhan o sawl digwyddiad dros y blynyddoedd, yn cynnwys Taith Prydain, ac mae’n rhan annatod o Felothon Nghymru bob blwyddyn.

“Gyda’r cymal cyntaf yn symud  o ddydd Sadwrn i nos Wener, mae’n gyfle gwych i hybu Brynmawr a’r cyffiniau,” meddai trefnwr y digwyddiad, Richard Hopkins. “Bydd y cefnogwyr yn gallu gweld sêr dyfodol y byd seiclo yn dechrau ar eu gyrfaoedd. Dydan ni, fel tref, ddim yn gallu aros.”

Mae’r ras yn ei 37ain flwyddyn ac mae wedi bod yn allweddol yn tanio gyrfaoedd nifer o feicwyr talentog yn cynnwys Geraint Thomas, Dan Martin, Mark Cavendish, Alex Dowsett ac Owain Doull.

Scott  Davies

Mae enillydd y ras yn 2013, Scott Davies, wedi mynd o nerth  i nerth yn ennill pencampwriaeth o  dan-23 Prydain dair gwaith yn olynol – ac mae o ar hyn o bryd yn rasio yn Ffrainc yn y Tour de l’avenir.

“Mae newyddion gwych bod y ras yn cael ei estyn i bum cymal, yn sicr bydd yn galetach, a phwy bynnag bydd yn ennill bydd yn cael hyder am y dyfodol,” meddai Scott Davies.