Colli fu hanes timau hoci dynion a merched Cymru ym mhencampwriaeth Ewrop yng Nghaerdydd a Glasgow dros y penwythnos.

Roedd y dynion yn wynebu’r Alban yn Glasgow yn y ffeinal a sgoriodd yr Alban ddwywaith yn y chwarter olaf i ennill 2-1.

Oherwydd bod dau dîm yn cael dyrchafiad o Adran B, bydd dynion Cymru yn cystadlu yn rheng uchaf Ewrop yn y bencampwriaeth nesaf yn 2019.

Trawsnewid y gêm

Mae Pennaeth Perfformiad Hoci Cymru, Dan Clements, yn sicr y bydd dyrchafiad y dynion i’r rheng uchaf yn trawsnewid y gêm yng Nghymru.

“Rwyf wrth fy modd dros y chwaraewyr a’r staff. Mae’n dipyn o gyflawniad,” meddai wrth golwg360.

“Bydd yn rhoi ni ar lefel gwahanol  o gystadlu, bydd yn gobeithio codi’r perfformiadau eto.”

Roedd y dynion wedi curo Ffrainc 4-3 yn y rownd gyn-derfynol i sicrhau eu dyrchafiad.

Y merched

Yn gynharach ddydd Sadwrn, roedd y merched wedi colli i’r Eidal 3-0 i orffen yn y pedwerydd safle, a hynny wedi iddyn nhw obeithio am fedal efydd. 

Roedd y merched yn chwarae yn y drydedd reng bedair blynedd yn ôl, ond fe fyddan nhw’n aros yn yr ail reng nawr.

“Fe allwn fod yn falch iawn o’r ffordd rydan ni wedi chwarae’r gemau,” meddai’r hyfforddwr, Kevin Johnson.

“Rydan ni efo’r nod o godi yn y rhestr detholion, ac mi wnawn ni gario ymlaen i gasglu pwyntiau. Heb os, mae’r twrnamaint wedi bod yn llwyddiant i ni.”