Mae tîm hoci merched Cymru yn chwarae Rwsia heddiw yn rownd gynderfynol pencampwriaeth Ewrop i wledydd yr ail reng.

Eisoes mae’r Cymry wedi curo Awstria 6-1 ac mae Abi Welsford a Leah Wilkinson wedi ennill 139 o gapiau’r un erbyn hyn.

Mae’r bencampwriaeth yn cael ei chynnal yng nghanolfan genedlaethol Gerddi Soffia yng Nghaerdydd, gydag wyth tîm yn cystadlu yn cynnwys Awstria, Belarws, yr Wcrain, Ffrainc, Yr Eidal, Gwlad Pwyl a Rwsia.

Mae Belarws yn herio’r Eidal yn y rownd gynderfynol arall – bydd y ffeinal yn cael ei chwarae yfory am 16.30.

Bydd y pencampwyr yn cael eu dyrchafu i reng gyntaf hoci rhyngwladol Ewrop.