Dover
Mae nofiwr oedd yn hanu o Abertawe wedi marw wrth geisio nofio’r mor rhwng Lloegr a Ffrainc.

Roedd Douglas Waymark yn un o’r rheiny oedd yn cymryd rhan yn y triathlon 300 milltir ‘Arch to Arc’, ac fe aeth i drafferthion yn ystod y cymal nofio yn y Mor Udd.

Er iddo gael ei eni a’i fagu yn Abertawe, roedd Douglas Waymark bellach yn byw yn Cheltenham.

Roedd yn ddringwr, yn feiciwr ac yn gerddwr brwd.

Mae’r triathlon ‘Arch to Arc’ yn gofyn i ymgeiswyr redeg 87 milltir o Marble Arch yn Llundain i dref Dover; nofio 21 milltir i Ffrainc; cyn beicio wedyn o Calais i’r Arc de Triomphe yn ninas Paris.