Llun: IAAF
Mae rhai o athletwyr Pencampwriaethau Athletau’r Byd (IAAF) yn Llundain wedi eu taro â salwch stumog.

Daeth cadarnhad gan y trefnwyr nos Lun fod amryw o’r cystadleuwyr sy’n aros yn un o westai swyddogol y bencampwriaeth wedi’u heffeithio â gastro-enteritis.

Mae lle i gredu fod o leiaf dau o’r rheiny yn aros yng ngwesty’r Tower Hotel, ond mae llefarydd ar ran y cwmni yn mynnu nad dyna sydd wrth wraidd y salwch.

Ychwanegodd llefarydd ar ran y Tower Hotel – “gallwn gadarnhau fod nifer fach o’n gwestai, yn anffodus, wedi dioddef o salwch. Rydym wedi cydweithio gyda’r Swyddog Iechyd Amgylcheddol a’r IAAF i ymchwilio tarddiad y salwch a gallwn gadarnhau nad y gwesty sydd wrth wraidd y salwch.”

‘Rheoli’r sefyllfa’

Fe wnaeth y rhedwr o Fotswana, Isaac Makwala, dynnu allan o ras ragbrofol 200m nos Lun ar ôl dweud iddo ddioddef o wenwyn bwyd, ond mae’n bosib y bydd modd iddo barhau i gystadlu yn y 400m os yw’n ffit.

Mewn datganiad dywedodd yr IAAF eu bod yn cydweithio â’r pwyllgor trefnu lleol ac Iechyd Cyhoeddus Lloegr i “sicrhau bod y sefyllfa yn cael ei rheoli.”