Mae’r chwaraewr golff o’r Almaen, Bernhard Langer wedi torri record gyda’i fuddugoliaeth o dair ergyd yn y Bencampwriaeth Agored Hŷn ym Mhorthcawl.

Dyma’i ddegfed buddugoliaeth mewn pencampwriaeth o’r fath – gan guro record Gary Player.

Dyma’i drydydd teitl mawr eleni.

Fe drechodd e’r Americanwyr Fred Couples a Billy Andrade yng ngwyntoedd arfordirol Porthcawl y prynhawn yma.

Dyma’r ail waith iddo ennill y gystadleuaeth ym Mhorthcawl – 2014 oedd y tro diwethaf.

Gorffennodd y Cymro Phillip Price yn chweched, un ergyd yn waeth na’r safon.