Fe ddaeth cadarnhad y bydd tim pêl-rwyd Cymru yn cystadlu yng Ngemau’r Gymanwlad fis Ebrill nesaf.

Mae Rosie Pretorius, Pennaeth Perfformio, Pêl-Rwyd Cymru yn barod am gyfnod prysur yn arwain at y Gemau sy’n cael eu cynnal ar Draeth Aur Awstralia rhwng Ebrill 4-15, 2018.

“Mae’r newyddion yn wych ac yn gyffrous,” meddai. “Y nod fydd i wella ar yr wythfed safle yn Glasgow yn 2014. Mi wnaethon ni orffen yn seithfed yng Nghwpan y Byd 2015, felly adeiladu ar hyn ydi’r nod.

“Mae pedwar rhanbarth yng Nghymru – Gogledd, Canolbarth-gorllewin, Canol-de a’r De-ddwyrain – ac mi fydda’ i’n cadw mewn cyswyllt â’r rheolwyr rhanbarthol o fis Fedi ymlaen pan mae’r tymor yn dechrau o ddifri.

“Heb os, mae pêl-rwyd yn ffynnu yng Nghymru gyda’r Celtic Dragons yn chwarae yn y Super League,” meddai Rosie Pretorius. “Mae’n gêm ryngwladol, gyda chwaraewyr  o Seland Newydd a Trinidad yn chwarae iddyn nhw.

“Fe fydd y Bencampwriaeth Ewropeaidd yn cael ei chynnal yng Nghaerdydd ym mis Hydref eleni. Mi fydd hyn yn rhan o’r paratoadau ar gyfer Gemau’r Gymanwlad, ac mi fyddwn ni’n chwarae yn erbyn Lloegr a’r Alban sydd hefyd wedi ennill eu lle yn y Traeth Aur a Ffiji.”

Y dorf fwyaf erioed

Mae wedi bod yn flwyddyn gyffrous i bêl rwyd yng Nghymru, gyda’r gemau prawf yn erbyn tim y ‘Silver Ferns’ o Seland Newydd ym mis Chwefror yn denu’r dorf fwyaf erioed i wylio pêl-rwyd ryngwladol yng Nghymru. Roedd 3,000 yn gwylio bryd hynny, a’r gobaith yw gyda’r tîm yn serennu yn Awstralia bydd y gêm yn ffynnu yng Nghymru.

Mae tîm pêl-rwyd Cymru wedi cael eu rancio’n 8fed yn y byd gan y Ffederasiwn Pêl-rwyd Rhyngwladol, sy’n golygu eu bod yn gymwys am le yng Ngemau 2018 ochr yn ochr ag 11 o dimau eraill. Dyma’r safle uchaf erioed i Gymru, ond mae yna dipyn o ffordd i fynd nes y bydd Cymru yn yr un cwmni â goreuon y byd, Awstralia a Seland Newydd.

O dan bolisi newydd gan Ffederasiwn Gemau’r Gymanwlad, mae llefydd ar gyfer campau tîm, codi pwysau a phara-chwaraeon yn cael eu pennu trwy system rancio.

Fe fydd athletwyr unigol mewn campau eraill yn cael eu henwebu gan y Cyrff Llywodraethu Cenedlaethol yn seiliedig ar feini prawf cymhwyster a pherfformiad. Fe fydd ‘Gemau’r Gymanwlad Cymru’ yn dewis yr athletwyr unigol ar gyfer Tîm Cymru ddiwedd y flwyddyn eleni.