Mae Cymru wedi gorffen yn y 10fed safle yng Ngemau Ieuenctid  y Gymanwlad ar ôl ennill 13 medal.

Roedd y tîm wedi ennill dwy fedal aur, chwe medal arian a phum medal efydd.

Enillodd Lewis Fraser, 16, Abertawe, fedal aur yn  y dull 100m pili pala, a neithiwr fe orffennodd Sammy Lee, 18, o Gaerdydd, y gystadleuaeth mewn steil gan guro Lewis Johnson o’r Alban mewn ornest bocsio.

Aeth y medalau arian i Medi Harris, 14, o Borthmadog, dull cefn 50m; James Tomlinson, 17, Sir Benfro, disgen; Sarah Omoregie, 17, Caerdydd, taflu maen; James Probert, 16, Sir Benfro, bocsio; Jacob Lovell, 17, Caerdydd, bocsio; a James Story, 16, Caerdydd, tenis.

Ac aeth y medalau efydd i dîm merched rygbi 7 bob ochr, a oedd wedi curo Fiji 19-14. Rhys Edwards, 17, Caerdydd, bocsio, Medi Harris, cefn 200m, Lewis Fraser,16, Abertawe, dull pili pala 50m; a thîm dwbl cymysg tenis, James Story  a Morgan Cross, 15, Sir y Fflint.