Aled Sion Davies
Mae Aled Sion Davies wedi torri record byd wrth hawlio medal aur am daflu pwysau ym Mhencampwriaethau Para Athletau’r Byd.

Fe lwyddodd y Cymro Cymraeg i daflu’r siot bellter o 16.02m ar ei gynnig cyntaf, cyn gwella ar hynny gydag ail dafliad o 17.52m – y pellter a dorrodd y record byd.

Roedd y para athletwr 26 o Ben-y-bont ar Ogwr eisoes wedi cipio’r fedal aur am daflu’r ddisgen yn y categori F42.

Dyma’r trydydd tro yn olynol iddo ddod i’r brig yn y ddwy gystadleuaeth.