Roger Federer (Llun: PA)
Fe fydd Roger Federer yn torri record heddiw pe bai e’n ennill tlws y dynion yn Wimbledon am yr wythfed tro.

Mae e’n gyfartal ar hyn o bryd â’r Americanwr Pete Sampras, sydd hefyd wedi ennill y tlws saith gwaith.

Fe, hefyd, fyddai’r dyn hynaf yn yr oes fodern i ennill tlws Wimbledon yn 35 oed.

Fe fydd y chwaraewr o’r Swistir yn herio Marin Cilic o Groatia ar y cwrt canol am 2 o’r gloch. Y chwaraewr diwethaf o’r wlad honno i ennill tlws y dynion oedd Goran Ivanisevic yn 2001.

Tlysau eraill

Yn y dyblau cymysg, fe fydd Jamie Murray a Martina Hingis yn herio pencampwyr 2016, Heather Watson a Henri Kontinen.

Ddydd Sadwrn, y Sbaenes Garbine Muguruza gipiodd tlws y merched ar ôl curo Venus Williams, 7-5 6-0.

Alfie Hewett a Gordon Reid oedd pencampwyr cadair olwyn y dynion, a Jordanne Whiley a Yui Kamiji oedd pencampwyr cadair olwyn y merched.