Lee Selby (Llun: PA)
Fe lwyddodd y Cymro Lee Selby i amddiffyn ei deitl byd yn mhwysau plu’r IBF yn Arena Wembley neithiwr ar ddiwedd wythnos anodd.

Fe drechodd yr Archentwr Jonathan Barros ar bwyntiau i gadw ei afael ar ei deitl am y trydydd tro yn olynol, a hynny bedwar diwrnod yn unig ar ôl colli ei fam.

Fe dalodd e deyrnged iddi ar ddiwedd yr ornest, gan ddweud ei fod e wedi ennill y teitl “iddi hi”.

Dywedodd ei fod e’n teimlo’n “emosiynol” cyn yr ornest ond nad oedd e am i unrhyw un y tu allan i’w dîm wybod am ei alar, ac nad oedd e am dynnu’n ôl o’r ornest.

Fe allai’r Cymro wynebu cyn-bencampwr WBA y byd, Carl Frampton wrth iddo fe geisio amddiffyn ei deitl am y pedwerydd tro –  fe dalodd yntau deyrnged i’r Cymro ar ddiwedd yr ornest neithiwr hefyd.