Y Sbaenes 23 oed, Garbine Muguruza, yw enillydd pencampwriaeth merched Wimbledon ar ôl curo un o sêr amlyca’r gêm.

Roedd ei gwrthwynebydd, Venus Williams, 37 oed, wedi ennill y bencampwriaeth bum gwaith yn y gorffennol.

Llwyddodd i’w churo 7-5 6-0 yn yr ornest derfynol yn Centre Court y prynhawn yma.